Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ieuainc
Sir Gâr yn ran o Fudiad Cenedlaethol o fewn Cymru a hefyd
ar lefel Cymru a Lloegr. Mudiad sydd yn rhoi cyfle o bob math yw
yr uchod o'r aelod mwyaf swil yn 10 oed tan yr aelod sydd wedi datblygu
llawer o fewn y Mudiad tan yn 26 oed. Mae cyfle gwych i gymdeithasu
fel aelod hefyd cyfle i deithio tramor, magu hyder trwy gystadlu,
cymeryd rhan mewn chwaraeon a phob math o gystadleuthau eraill,
bod yn rhan o dim boed mewn cystadleuaeth neu mewn prosiect cefn
gwlad, mae'r rhestr yn enfawr. CYFLE dyna beth sydd yn eich disgwyl
yn holl glybiau y Sir a hefyd ar lefel Cymru.
Bydd croeso mawr yn aros amdanoch mewn unrhyw un o'r 29 clwb o
fewn Sir Gâr. Cysyllwch a Anwen Evans neu Eirios Thomas i
weld beth sydd ymlaen yr wythnos yma, peidiwch ag oedi a gadael
eich cyfle tan yr wythnos nesaf oherwydd mi allaf eich sicrhau 'rydych
yn colli allan.
| Anwen Evans |
Eirios Thomas |
Swyddog Datblygu
Canolfan Busnesau Cefn Gwlad
Nant-Y-Ci
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA33 5DR
Ffôn : 01267 222784
|
Trefnydd
Ty Amaeth
Lle Cambrian
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1QG
Ffôn : 01267 237693 |
| AMGriffiths@sirgar.gov.uk |
sir.gar@yfc-wales.org.uk |
|