Logo C.Ff.I. Cymru





Profiadau Teithio Irwel Jones

Fy nhaith i Ganada

Mi gefais i dipyn o sioc i gael fy newis i fynd i Ganada am dri mis ar drip cyfnewid gyda y ‘Junior Farmers Association of Ontario’, yn enwedig gan fy mod yn trio am daith dramor am y tro cyntaf, a hefyd yn un o tua pedwar ar ddeg yn cael cyfweliad lan yn Stoneleigh!

Er y sioc roeddwn yn falch iawn fy mod wedi cael fy newis ag es ati i baratoi ar gyfer trip fy mywyd. Pum mis yn ddiweddarach roeddwn yn eistedd yn nerfus ym maes awyr Caerdydd efo dim llawer o gliw beth oedd yn aros o’m blaen ochr draw’r dw^r. Aeth fy nhaith gyntaf mewn awyren yn dda iawn, er nad oedd ar amser, a roeddwn wedi blino ychydig. Fe es yn syth o’r maes awyr yn Toronto i Slots yn Hanover (dwy awr i’r gogledd o Toronto!) i gymdeithasu a chwrdd â’r cyfnewidwyr eraill o’r Almaen, yr Alban, Awstralia a Gogledd Iwerddon a oedd wedi cyrraedd rhai dyddiau yng nghynt. Roedd y dyddiau cyntaf yn rhai cynhyrfus iawn yn adnabod neb ag mewn gwlad hollol wahanol, roedd y bywyd yn llawer mwy hamddenol, llawer mwy o le na Chymru (a llawer mwy fflat!) pawb yn y wlad yn dreifio GMC neu Dodge Trucks, ag wrth gwrs yn gyrru ar ochr anghywir y stryd!

Fel y dywedais roedd y cyfnewid yn cael ei gynal gan y ‘Junior Farmers’ dros deuddeg wythnos, gyda ni yn newid zone bob pythefnos, ac roedd pob zone yn cynnwys tair neu bedair sir. Fe dreiliais rhan fwyaf o’m hamser yn De Ontario sef yr ardal mwyaf poblog yn Canada, yn cynnwys dinasoedd, Toronto, Ottowa a Windsor. Mi fues i yn yr Unol Daleithiau a draw i Quebec yn achlysurol. Roedd yn rhan fach o Ganada ond yn anferth i gymharu â Chymru.

Yn y mis cyntaf mi fues yn yr Ardal wrth ochr Llyn Huron, lle’r oedd canolbwynt amaethyddol Ontario a hefyd llawer o glybiau cryfaf y JF. Cefais gyfle i weld llawer o ffermydd a dysgu llawer am ddulliau ffermio yr ardal a sylweddoli er eu bod yn wahanol iawn, roedd yna nifer o’r un problemau yn gwynebu y ffermwyr ifanc. Fe fues i yn ardal Perth a Oxford lle’r oedd ffermwyr a llawer o dda Godro a moch, tra lawr at ardal Kent a Essex roedd cnydau, gwinllannau a garddio marchnadol yn fwy amlwg.

Wrth imi symud ymlaen i’r ail rhan roeddwn yn agosach at Toronto a’r ardaloedd trefol lle’r oedd llawer o ffermydd yn cael eu llyncu gan y ddinas, yma ces i gyfle i fynd i’r ardaloedd twristaidd, fel y CN tower y Skydome a Niagra Falls (ac os cewch y cyfle i weld un peth yn unig yng Nghanada, rwyf yn awgrymu eich bod yn mynd i Niagra Falls). Hefyd fe fues i barc ‘Canada’s Wonderland’, tiwbio lawr yr Allora Gorge a reidio ceffylau ar ‘ranch Crusty the Cowboy’!

Peryglais fy mywyd dair gwaith yn ystod y daith, dwy waith ar y ddau beth blaenorol ag unwaith ar ôl i ni symud i fyny i ardal Ottowa, ar y ‘white water rafting’ ar yr afon Ottowa. Nid wyf yn nofio’n dda iawn, ond un peth sydd rhaid gwneud i gael y mwyaf allan o drip fel yma yw mynd i mewn a meddwl agored a thrio popeth! Ac mae’n rhaid dweud mae y rafftio oedd y gweithgaredd gorau wnes i allan yng Nghanada, er i’r rafft cael ei daflu ben i waered unwaith a thaflu y deuddeg o ni allan!

Roedd hefyd yn gyfle i drio bwydydd newydd fel “moose kebabs, poutine a beavertails” (dim rhai iawn) â hefyd maent yn hoffi barbeciw a chael lot o bartïon tu allan yn yr haf felly gwyliwch am y Mosquitos! Rwy’n siw^r bod chi wedi clywed am y power cut bach dros yr Haf lle bu rhan fwyaf o Gogledd Dwyrain America mas am ddau ddiwrnod, mi fu y wlad bron a chau lawr, gyda rhan fwyaf o swyddfeydd a siopau yn cau. Dechreuodd BSE crisis yng Nghanada dros yr haf gydag un fuwch yn dioddef ac allforio yn cael eu wahardd. Roedd ffermwyr yno yn bryderus iawn ag yn awyddus iawn i glywed am ein profiadau ni efo’r clefyd.

Roedd y cyfnewid yn gyfle i gwrdd â phobl o wledydd eraill hefyd sef Mark o Awstralia, Adrian a Elizabeth o Gogledd Iwerddon, Andrea o’r Almaen, Margaret o’r Alban a Becky o Loger ar yr un cyfnewid. Cawsom lawer o hwyl yn teithio fel grw^p â rwyf wedi gwneud ffrindiau da, ac fe fydd lle da gyda fi i aros mewn sawl gwlad nawr! Mae nifer o storïau gen i a fyddaf yn adrodd am flynyddoedd, fel pan aeth Mark (Crocodile Dundee) a ni ar Walkabout ac fe aethon ar goll am bedair awr! Hefyd fe ges gyfle i gwrdd â Rebbeca Anthony o glwb Llanwnio a oedd mas yn gweithio ar fferm efo teulu yn Simcoe County a oedd wedi allfudo o Sir Gâr pedair blynedd yn ôl sef Trevor ag Isobelle Morris.

Ces i amser anhygoel yn y tri mis a byddwn i yn annog unrhyw un i ymweld â’r wlad. Byddaf yn siw^r o fynd yn ôl yno rhyw ddydd. Hoffwn i rhoi ddiolch i’r Ffermwyr Ifanc am y cyfle a hefyd i’r noddwyr a helpodd dalu am y daith awyren, sef Oriel Jones a’i fab, Wynnstay, Carmarthen and Pumsaint Farmers, Trident Feeds, y Young Farmers Ambassadors a Countrywide Farmers. Diolch

Irwel Jones
Dyffryn Cothi

Diweddarwyd: 06.04.04
Hawlfraint © C.Ff.I. Sir Gâr 2004
AEEvans@sirgar.gov.uk
Anwen Evans, Swyddog Datblygu, Canolfan Busnesau Cefn Gwlad,
Nant y Ci, Caerfyrddin SA31 3DR Ffon: 01267 222784
Eirios Thomas, Trefnydd, Ty Amaeth, Lle Cambrian, Caerfyrddin, SA31 1QG Ffon: 01267 237693