Yn ogystal â rhoi'r cyfle i CHI
ennill £1500 yn ein loteri wythnosol bydd Cyfle Sir Gâr
hefyd yn rhoi cyfle i economi cefn gwlad y Sir.
Am dâl mynediad o £1 yr wythnos byddwch yn cael eich
cynnwys yn y loteri. Bydd yr holl elw o'r loteri - ar ôl talu'r
gwobrwyon, yn mynd at greu Banc Tir Lleol fydd yn rhoi benthyciadau
di-log i fentrau a busnesau gwledig i ehangu a chreu swyddi yn yr
ardaloedd y mae mwyaf eu hangen. Bydd y loteri hefyd yn fodd o gynorthwyo
ieuenctid yr ardal drwy weithio mewn cyswllt agos â C.Ff.I
Sir Gâr. Mae pob clwb yn y sir yn brwdfrydig o blaid cefnogi
a hyrwyddo'r loteri wledig a fydd yn ei thro yn cynorthwyo eu gweithgareddau
hwy.
I fanteisio ar y cyfle hwn - yn syml llenwch ffurflen
gais (nid oes rhaid i chi gofio prynu tocyn) a'i dychwelyd atom.
Rhoi Cyfle i Sir Gaerfyrddin
! |
Datblygwyd Cyfle Sir
Gâr gan Glybiau Ffermwyr Ifainc Sir Gaerfyrddin a Cyllid
Cymru gyda chymorth Cyngor Sir Gaerfyrddin. |
! |
Gweinyddir Cyfle Sir
Gâr gan Gymdeithas Cyfle Sir Gâr, mudiad dielw. |
! |
Defnyddir yr arian a
godir gan Gyfle Sir Gâr - ar ôl talu isafswm o dreuliau
- i ffurfio Banc Tir fydd yn rhoi benthyciadau di-log i fusnesau
sy'n bodoli eisoes a busnesau newydd yn Sir Gaerfyrddin i'w
cynorthwyo i greu cyfleodd gwaith newydd. |
! |
Asesir pob cais gan
ein Panel Buddsoddi, sy'n cynnwys pobl wirfoddol o bob maes
o economi gwledig Sir Gaerfyrddin. Gwahoddir ymgeiswyr i fynychu
cyfarfod o'r Panel ar ôl iddynt lenwi Ffurflen Gais am
Fenthyciad. |
! |
Rheolwr Cyfle Sir Gâr
yw Michelle Rees. Yn gweithio o swyddfeydd yng Nghaerfyrddin
bydd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych mewn
perthynas â chymryd rhan yn y Loteri neu Gymorth i Fusnesau. |

|
|