| Eleni cefais y fraint a’r anrhydedd i gynrychioli
C.Ff.I. Cymru i deithio tramor drwy ennill ysgoloriaeth C Alma
Baker i ymweld â fferm Limestone Downs, Seland Newydd
am bedwar mis.
Ar Ionawr 4ydd 2003, ffarweliais âg adref a dechrau
fy nhaith hir o chwe awr ar hugain i ochr draw’r byd.
Wrth gyrraedd Auckland cefais fy nghyfarch gan un o reolwyr
y fferm sef Warwick Deighton. Yna rhaid teithio am ddwy awr
arall tuag at Port Waikato cyn cyrraedd Limestone Downs. Yn
wir, dyma beth oedd agoriad llygad. Roedd y golygfeydd hyfryd
yn brofiad ynddo hun. Deg mil o erwau, ugain mil o ddefaid,
dwy fil o wartheg a llond lle o waith!
Ar ol dadbacio a chwrdd a rheolwr y fferm Alf Harwood, derbyniais
cwpwl o fapiau, allweddi i'm beic pedair olwyn Honda, a gwn
a chyfarwyddiadau ar unwaith i fynd i'r sied wlân gan
ei bod hi'n amser cneifio ar y fferm. Treuliwyd fy neg diwrfnod
cyntaf yn breichiadu defaid o 7yb at 5yh! Roeddwn hefyd yn
gorfod cyfri'r defaid a oedd wedi cael ei cneifio. Ddim yn
dasg rhwydd credwchi fi!
Roedd un peth yn wir i ddweud, nid oeddent yn credu yn fy
nghadw i’n segur. Pob nos byddai Don y prif fugail yn
fy ffonio gyda threfn y dydd am y diwrnod canlynol. Byddai
fy niwrnodau yn amrywio o waith stoc, ffensio, gwaith tractor,
i hyd yn oed lladd defaid! Fel arfer byddwn yn gweithio gyda
bugail arall ar gyfer hwyluso pwyse gwaith.
Every quad bike had a ‘CB’ therefore it was very
easy to contact the shepherds at any time – especially
when lost! Moving big lots of stock involved early morning
starts as we would have to move them long distances before
the sun’s rays got too hot for the animals and for the
dogs to work. Each shepherd would have at least five working
dogs. These were their team and without good dogs, their job
couldn’t be successfully completed.
Implements were kept to a minimum at Limestone Downs. 10,000
acres and only 2 tractors! Due to New Zealand’s warm
climate, stock are out 365 days of the year and therefore
there is no need for any silage, hay or maize to be harvested
on beef and sheep farms. If only we could do this in Wales!
I must admit, the novelty of topping 260 acres of rushes and
thistles with a four-foot cut topper and no radio wore off
immensely quick, although I do remember singing Calon Lan
a few times in my boredom!!!
The main highlight for me on the farm was my trip in the
small plane. This was a seventeen day contract where all fertilizers
were taken out by plane, 750 kilos at a time all through GPS
Satellite. The GPS would enable the pilot to know exactly
where he’d been and would only take 4 minutes 50 seconds
per load. Seriously scary ride, but very impressive.
Wedi cwblhau tri mis bythgofiadwy ar y fferm, roedd yn anffodus
yn amser i mi ffarwelio. Gan bod yr ysgoloriaeth yn cynnwys
mis ychwanegol ar ddiwedd y daith, penderfynais i ymuno â’r
“Kiwi Experience” a theithio o amgylch Seland
Newydd. Roedd y trip yma yn benodol ar gyfer pobl ifanc o
bob rhan o’r byd yr un fath â fi. Bu’m yn
ffodus i wneud ffrindiau yn syth a chymeryd rhan mewn gweithgareddau
dwl gan gynnwys “Sky Dive, Bunjy Jump, White water rafting”,
cerdded ar “glaciers”, ymweld â Wellington
Stadium i wylio’r rygbi super 12 a chwrdd â Jona
Lomu! Yn ogystal ag ymweld â rhai o’r llefydd
prydferthaf a welais erioed.
Roedd rhaid ymweld a Limestone Downs unwaith yn rhagor i
ffarwelio â phawb cyn troi am adref. Yn wir, cefais
barti ffarwel ni anghofiaf fyth. Cefais fy nhrin fel rhan
o deulu a hoffwn ddiolch o waelod calon iddynt am y croeso
a dderbyniais, yn ogystal â’r gofal pan fues yn
yr ysbyty.
Without a doubt this trip was the greatest experience of
my life and would advise any Young Farmer interested in travelling
abroad to take the opportunity and to travel with this great
federation.
Byddai fy mywyd tipyn yn dlotach pe na bawn wedi ymuno â’r
C.Ff.I. Rwyf wedi cystadlu o fewn y sir, yng Nghymru yn ogystal
â Chenedlaethol ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd
ar hyd a lled y byd. Mae fy nyled yn fawr i eraill a wnaeth
fy nghefnogi megis fy nghyflogwr BOCM Pauls, i’r ffederasiwn
a swyddogion y sir ac yn bennaf i C.Ff.I. Llanddarog am roddi
imi yr holl fanteision ac am wneud mor dda yn fy absenoldeb.
Diolchaf i fy rhieni am y cyfle rwyf wedi ei gael i ehangu
fy ngorwelion drwy ymweld â Seland Newydd a phrofi sut
mae pobl eraill yn ffermio a byw.
Cofiwch, nawr yw eich amser a manteisiwch ar bob cyfle posib!
Diolch yn fawr
Anwen Edwards
Llanddarog
|